Private company
Soziolinguistika Klusterra
Soziolinguistika Klusterra is a Spanish academic publisher based in Andoain, founded in 2004.1
Sefydlwyd y Soziolinguistika Klusterra ("Clwstwr Ieithyddiaeth Gymdeithasol" yr iaith Fasgeg) yn 2004. Mae'n disgrifio ei hun fel "y ganolfan ymchwil ar gyfer hybu'r defnydd o'r Fasgeg." Dechreuodd camau cyntaf y prosiect hwn o fyfyrio ar syniad a gynigiwyd gan Dr. Erramun Baxok pan ddychwelodd o Québec: sef creu rhywbeth yng Ngwlad y Basg oedd yn debyg i'r CIRB, canolfan ymchwil ar ddwyieithrwydd a fu'n rhan ohoni yn Québec. Ym mis Tachwedd 2000, trefnwyd cynhadledd "Sefydlu Sefydliad Sosioieithyddol Gwlad y Basg" yn Gasteiz lle cytunodd grŵp eang o dechnegwyr ac arbenigwyr yn y maes â'r diagnosis hwn ac oddi yno cychwynnodd y cydweithrediad rhwng sefydliadau (Protocol Cydweithio I a II), a oedd wedi'i ddiffinio a'i gwblhau ers hynny. Mae pencadlys y Klusterra yn Martin Ugalde Kultur Parkea yn nhref Andoain. Mae'n arbenigo mewn polisi iaith ac adfer iaith a shifft ieithyddol2 From the cy Wikipedia, CC BY-SA 4.0
Last updated Oct 21, 2026.
Sources
The numbers on this page point here. Each one links to the record it came from.
- 1
- 2